Grŵp Cynefin
Labrwr Aml Grefft / Multi Skilled Labourer
1 month ago
Share this opportunity
Share this opportunity to other talents of your network:
✓ Offer them a visibility boost with clients.
✓ Help your contacts find their next job.
Important information
Location:
United Kingdom
Work mode:
Onsite
Published on:
29 September 2026
What they need
Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.
Mae Grŵp Cynefin yn gymdeithas dai sy'n adeiladu, creu a chynnal cartrefi gan gefnogi tenantiaid a chwsmeriaid yn eu cymunedau.
Rydyn ni'n berchen ar dros 5,000 o gartrefi gyda dros 10,000 o denantiaid, ac yn gweithredu ar draws chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys.
Mae'r grŵp yn cynnwys dau is-gwmni, Canllaw a Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys gwasanaethau cymunedol ac atal digartrefedd.
Mae cymuned wrth wraidd popeth â wnawn. Rydyn ni'n gweithion galed i ddarparu tai diogel, o safon, a gwasanaethau rhagorol. Rydyn ni'n cyfrannu at ddatblygu cymunedau cynaliadwy a hyrwyddo'r iaith a diwylliant Cymraeg gyda balchder.
Gyda dros 300 o aelodau staff, rydyn ni'n rhoi iechyd a lles ein pobl yn flaenllaw, gan adeiladu Lle i Berthyn i bawb.
Ymunwch â'n Gweinthlu Mewnol o fewn ein Tîm Cynnal a Chadw a gwnewch wahaniaeth go iawn i gartrefi a chymunedau ledled Gogledd Cymru. Byddwch yn darparu gwaith labro aml grefft o safon uchel ar draws amrywiaeth eang o eiddo, gan gyfrannu at greu cartrefi diogel, cyfforddus a chroesawgar i'n tenantiaid.
- Cyflawni ystod eang o waith atgyweirio, cynnal a chadw a gosod ar draws stoc eiddo Grŵp Cynefin, gan gynnwys cartrefi â thenantiaid ynddynt, eiddo gwag, mannau cymunedol a gwaith cytundebol arall.
- Sicrhau bod pob gwaith yn cael ei gyflawni'n ddiogel, yn effeithlon ac i'r safonau uchaf, gan gydymffurfio â rheoliadau, manylebau ac arferion gorau'r diwydiant.
- Adeiladu perthnasoedd cadarnhaol gyda thenantiaid, cydweithwyr a phartneriaid, gan ddarparu gwasanaeth rhagorol a phrofiad cwsmer o'r radd flaenaf.
- Defnyddio technoleg a systemau digidol i reoli gwaith yn effeithiol, cofnodi gwybodaeth yn gywir a helpu i ddarparu gwasanaeth modern ac effeithlon.
- Gweithio fel rhan o dîm proffesiynol, cefnogol ac ymroddedig sy'n ymfalchïo mewn gwneud gwahaniaeth bob dydd.
Os ydych yn ymfalchïo yn eich gwaith, yn mwynhau datrys problemau ac yn angerddol am ddarparu gwasanaeth rhagorol, hoffem glywed gennych.
Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch âg Elgan Evans, Rheolwr Gwasanaeth, ar 0300 111 2122.
Y Pecyn
Math o gytundeb: Parhaol
Cyflog: £27,673 y flwyddyn
Lleoliad: Safleoedd Gwaith y Gymdeithas
Oriau Gweithio: 40 awr yr wythnos
Gwyliau: 30 diwrnod o wyliau blynyddol pro rata y flwyddyn ynghyd â'r gwyliau banc statudol a'r cyfnod rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
Teithio: Darperir cerbyd ar gyfer defnydd busnes awdurdodedig.
Pensiwn: Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)
Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon
Disgrifiad Swydd
DS Labrwr Aml Grefft 09.26.pdf
JD Multi Skilled Labourer 09.26.pdf
Buddiannau
Pecyn Buddion.pdf
Benefits Package.pdf
Datblygiad Personol:
Os oes gennych gymwysterau proffesiynol ach bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol ich corff aelodaeth, byddwn yn talu un or rhain bob blwyddyn ich helpu i aros yn gysylltiedig âr wybodaeth ar addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau in holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chin gweithio gyda ni byddwn nin buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!
Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol
Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd Swydd.pdf
Privacy Notice Job Applicant.pdf
Canllawiau cwblhau cais.pdf
Guidelines for completing your application.pdf
Dyddiad y cyfweliadau: Wythnos yn cychwyn 02.11.26
Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i roi gwybod i chi a ydych wedi cyrraedd y rhestr fer. Cofiwch wirio'ch ffolder Sothach (junk) neu Sbam rhag ofn bod ein neges yn cael ei hidlo yno.
Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol ar gyfer y swydd hon.
Other offers great for you!
These companies are also looking for great profiles
Wikeys
Senior Test Automation Engineer – Playwright / API / TypeScript
Freelance
Brussels, Belgium
Hybrid
Skills
23 minutes ago
Quick apply
Visian
Product Owner / UX-BA
Freelance
Paris, France
Hybrid
Skills
20 minutes ago
Quick apply
SooIT
Ingénieur Infrastructure & AIOps – Linux / Elastic / IA Agentique
600
Freelance
Saint-Denis, France
Hybrid
Skills
9 minutes ago
Quick apply
No company information available.