Find a jobRecruiters

Technolegydd (2526595-1)

Exclusive opportunity

Onsite

Technolegydd (2526595-1)

Cardiff Metropolitan University

Technolegydd (2526595-1)

1 month ago

Share this opportunity

Share this opportunity to other talents of your network:
✓ Offer them a visibility boost with clients.
✓ Help your contacts find their next job.

Important information


Contract type:

Permanent

Location:

Cardiff, UK

Work mode:

Onsite

Published on:

23 September 2026

What they need


Er mwyn cefnogi ‘r gwaith o ddarparu cymorth technegol i'r sector gweithgynhyrchu bwyd a diod yng Nghymru, rydym yn chwilio am ddau weithiwr proffesiynol technegol i ymuno â Chanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE. Yn y rôl hon, byddwch yn gweithio gyda gweithgynhyrchwyr bwyd a diod a rhanddeiliaid ehangach y diwydiant i rannu gwybodaeth, gwella arferion diogelwch ac ansawdd bwyd, a chefnogi gwelliant parhaus ar draws y sector.

Bydd gennych gyfle i gydweithio â busnesau, partneriaid yn y diwydiant a Thîm Technegol ZERO2FIVE, gan helpu sefydliadau i ddatblygu gallu technegol tra'n cyfrannu at dwf a llwyddiant y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru.

Byddwch Yn Chwarae Rhan Allweddol Drwy

  • Gyflwyno arferion gorau ym maes diogelwch ac ansawdd bwyd trwy gymorth technegol a throsglwyddo gwybodaeth.
  • Nodi cyfleoedd i wella drwy ddadansoddi bylchau ac archwiliadau mewnol.
  • Darparu arweiniad ar gydymffurfiaeth dechnegol, gofynion diogelwch bwyd ac achrediad gan drydydd parti, gan gynnwys BRCGS a SALSA.
  • Cefnogi datblygu, dilysu a lansio cynhyrchion a phrosesau bwyd newydd yn unol â deddfwriaeth a safonau ansawdd.
  • Rheoli a mentora lleoliadau gwaith er mwyn cyflawni amcanion technegol ac allbynnau rhaglen y cytunwyd arnynt.
  • Cynrychioli ZERO2FIVE mewn digwyddiadau, cynadleddau ac arddangosfeydd, gan gefnogi mentrau datblygu busnes, hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus.

Beth fyddwch chi’n ei gyfrannu Byddwch yn dod â phrofiad sylweddol mewn rôl dechnegol, rôl sicrhau ansawdd neu rôl DCN o fewn y sector gweithgynhyrchu bwyd a diod ar draws o leiaf dau gategori cynnyrch, ynghyd â dealltwriaeth gadarn o ddeddfwriaeth bwyd, systemau rheoli ansawdd a chydymffurfiaeth reoleiddiol. Byddwch yn gyfforddus yn gweithio ar y cyd â busnesau a rhanddeiliaid, helpu i nodi cyfleoedd i wella a gweithredu atebion effeithiol.

Bydd eich sgiliau cyfathrebu yn eich galluogi i feithrin perthnasoedd effeithiol â phartneriaid ar bob lefel, tra bydd eich dull dadansoddol yn cefnogi paratoi adroddiadau, archwiliadau ac asesiadau technegol. Byddwch yn drefnus ac yn hyblyg, ac yn gallu rheoli blaenoriaethau sy'n cystadlu â'i gilydd er mwyn cwrdd â therfynau amser.

Yn Ogystal, Bydd Gennych Chi

  • Radd mewn disgyblaeth wyddonol berthnasol (e.e. Gwyddor Bwyd neu Dechnoleg Bwyd), ynghyd â chymwysterau HACCP Lefel 3 a Diogelwch Bwyd mewn Gweithgynhyrchu Lefel 3, neu brofiad cyfatebol ym maes gweithgynhyrchu bwyd.
  • Profiad o gefnogi neu arwain gweithgareddau paratoi ar gyfer archwiliadau gan drydydd partïon a gweithgareddau cydymffurfio.
  • Profiad o ddadansoddi data ac ysgrifennu adroddiadau yn y sector bwyd.
  • Sgiliau rhyngbersonol rhagorol, dull cydweithredol o ddatrys problemau, ac ymrwymiad i weithio fel rhan o dîm, cyfrinachedd a datblygiad proffesiynol parhaus.
  • Parodrwydd i deithio'n rheolaidd a mynychu digwyddiadau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Pam ymuno â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd? Rydym yn brifysgol sy'n seiliedig ar werthoedd. Rydym yn falch o'n diwylliant, ac rydym yn cefnogi ein staff. Ein hysbryd cymunedol yw'r edau aur sy'n sail i'n gwerthoedd a'n hymddygiadau. Rydym yn cefnogi ac yn cofleidio cynhwysiant sy'n galluogi pawb i deimlo eu bod yn cael eu parchu ac yn gallu cyflawni ar eu gorau. Drwy ymuno â'n Prifysgol, byddwch mewn amgylchedd unigryw lle mae cyfoeth o wybodaeth ac adnoddau ar gael yn rhwydd, gan eich cefnogi yn natblygiad eich gyrfa.

Rydym Yn Cynnig Buddion Rhagorol Fel

  • Gwyliau blynyddol o 35 diwrnod, ynghyd â 12 diwrnod o wyliau banc neu ddiwrnodau consesiynol.
  • Aelodaeth o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gyda chyfraniadau hael.
  • Polisïau rhagorol sy'n ystyriol o deuluoedd - cymerwch olwg ar ein tudalen Canolfan Bolisïau.
  • Cyfleoedd i ddysgu a datblygu eich sgiliau, gyda mynediad at gyfleusterau llyfrgell a gwasanaethau digidol.
  • Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd rhagorol gydag aelodaeth â chymhorthdal.
  • Mynediad am ddim i deuluoedd at ein darparwr annibynnol arbenigol o gymorth lles, Health Assured.

Cysylltu â ni Am ragor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch ag Jess Lacey, y Rheolwr Technegol, yn [email protected].

Rhaid cyflwyno pob cais ar-lein.

Defnyddir y fanyleb person fel offeryn ar gyfer llunio rhestr fer; felly, gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio'r wybodaeth hon wrth ysgrifennu eich cais. Gallwch ddod o hyd i awgrymiadau a chyngor defnyddiol ar sut i wneud cais drwy ymweld â'n tudalen Canllawiau Ymgeisio.

Dyddiad Cau: 25 Oct 2026

Ysgol/Uned: Proffesiynol a Chymorth

Cyflog: £39,906 to £44,746 y flwyddyn

Parhaol

Other offers great for you!

These companies are also looking for great profiles

Easy-Talent

Responsable des Services Généraux - CDD F/H

Freelance

77340 Pontault-Combault, France

Onsite

Skills

moyens généraux

9 hours ago

Quick apply

Unitech Solutions

Tech Lead Data

500€/jour

Freelance

Saint-Denis, France

Hybrid, Onsite

Skills

IBM TM1Planning Analytics for Excel (PAX)TM1 PerspectiveEnterprise Performance Management (EPM) architectureExcel VBATechnical migration

6 hours ago

Quick apply

CL23

Audit Coordination Consultant - Finance - CDI/Freelance

Freelance

Luxembourg

Onsite

Top Recruiter

Skills

External AuditAudit coordinationISAE 3000Agreed-Upon Procedures (AUP)Regulatory analysisAdvanced Excel

6 hours ago

Quick apply

The best place to find your next move

© 2026. All Rights Reserved.

Talents

Find a job

Create a profile

Solutions and tools